Mae Gareth Bale wedi dweud wrth bodlediad golff Americanaidd nad yw e’n deall obsesiwn pobol â’i hoffter o chwarae’r gêm.

Fe gafodd y Cymro ei hun mewn dŵr poeth yn y cyfryngau yn Sbaen y llynedd ar ôl arddangos baner wrth chwarae dros Gymru oedd yn dweud ‘Cymru, golff, Madrid… yn y drefn honno’.

 

Roedd cryn drafod wedi bod cyn hynny am yr amser mae e’n ei dreulio’n chwarae’r gêm, ac fe wnaeth y faner gythruddo cefnogwyr Real Madrid, ei glwb yn Sbaen.

 

“Mae gan lawer o bobol broblemau â fi’n chwarae golff,” meddai Gareth Bale ar y podlediad The Eric Anders Lang Show.

 

“Dw i ddim yn gwybod beth yw eu rheswm oherwydd dw i wedi siarad â meddygon ac mae pawb yn iawn gyda’r peth.

 

“Mae gan y cyfryngau safbwynt nad yw’n dda i fi, y dylech chi fod yn gorffwys, y gall achosi anafiadau i chi.

 

“Mae Steph Curry [chwaraewr pêl fasged] yn chwarae, efallai ar fore gêm.

 

“Os dw i’n chwarae deuddydd cyn gêm, mae’n fater o ‘beth mae e’n ei wneud’?”