Mae David Cotterill, cyn-chwaraewr pêl-droed Abertawe, wedi canu clodydd sêr ifainc y tîm gan ddweud ei fod yn falch o’u gweld nhw yn nhîm Cymru.

Ymhlith y rhai sydd wedi camu o Academi’r Elyrch i’r tîm cenedlaethol dros y blynyddoedd diwethaf mae Joe Allen, Ben Davies a Daniel James.

Mae Connor Roberts a Joe Rodon hefyd wedi torri trwodd i dîm Ryan Giggs gan chwarae yng ngemau rhagbrofol Ewro 2020, ac mae Ben Cabango a Liam Cullen yn dynn ar ei sodlau.

“Mae Academi’r Elyrch wedi bod yn cynhyrchu talent ifanc o Gymru ers nifer o flynyddoedd,” meddai David Cotterill, oedd wedi chwarae i’r Elyrch 35 o weithiau gan ennill 24 o gapiau dros Gymru.

“Mae’n braf gweld chwaraewyr Abertawe’n cael cydnabyddiaeth yn nhermau’r tîm cenedlaethol ac maen nhw’n gwneud yn eithriadol o dda.

“Dw i’n credu bod Connor Roberts fwy neu lai wedi sicrhau ei le fel cefnwr de yng ngharfan Cymru, a dw i wedi gwylio Rodon sawl gwaith ac mae e hefyd yn gwneud yn dda iawn.

“Dw i’n credu bod gan y ddau ohonyn nhw obaith gwych o chwarae yn yr Ewros y flwyddyn nesaf.

“Mae’n braf eu gweld nhw i gyd yn gwneud cystal a gobeithio y gall hynny barhau.”