Mae tymor tîm pêl-droed Casnewydd ar ben, i bob pwrpas, yn dilyn pleidlais ymhlith timau’r Ail Adran yn sgil y coronafeirws.

Daeth y penderfyniad neithiwr (nos Wener, Mai 16), yn dilyn trafodaethau rhwng y Gynghrair Bêl-droed a’r holl glybiau.

Mae rhai timau wedi chwarae 36 o gemau ac eraill wedi chwarae 37, a bydd yn rhaid cael sêl bendith cyn cadarnhau’r penderfyniad i beidio â chwarae’r gemau sy’n weddill.

Mae Casnewydd wedi gorffen yn y pymthegfed safle.

Yn ôl y Gynghrair Bêl-droed, roedd penderfyniad y timau’n “unfrydol”, ac mae’n debygol y bydd y tabl terfynol yn cael ei lunio ar sail pwyntiau fesul gêm, tra bydd y gemau ail gyfle’n cael aros.

Does dim penderfyniad eto ynghylch yr Adran Gyntaf, ar ôl i’r clybiau fethu â dod i gytundeb – mae chwe thîm yn awyddus i orffen y tymor ac felly, bydd cyfarfod pellach ddydd Llun (Mai 18).

Ymateb Casnewydd

“Fel clwb pêl-droed dan berchnogaeth cefnogwyr yn y gymuned, ein prif ystyriaeth yn ystod y broses hon yw iechyd a lles ein chwaraewyr, staff a chefnogwyr, a’r effaith economaidd mae’r pandemig hwn yn ei chael ar rai ohonyn nhw a nifer o bobol eraill yng Nghasnewydd,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Ac eithrio rhannu diweddariadau rheolaidd gan y Gynghrair Bêl-droed, mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi penderfynu y byddai cyhoeddi datganiadau cyn bod unrhyw benderfyniad i ddod â’r tymor i ben wedi bod yn wrthgynhyrchiol ac wedi creu sïon fyddai wedi tynnu sylw tra bod trafodaethau ar y gweill.

“Pe bai’r penderfyniad amodol hwn yn cael ei ffurfioli, mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn sylweddoli y bydd hyn yn destun siom i nifer o’n cefnogwyr.

“Bydd gan nifer gwestiynau ynghylch y camau nesaf i’r clwb a phêl-droed yn gyffredinol.

“Unwaith fydd penderfyniad ffurfiol wedi’i wneud, bydd y clwb yn cyhoeddi datganiad llawnach.

“Yn y cyfamser, hoffai’r clwb ddiolch i’n holl gefnogwyr gwych am eu hamynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Plîs arhoswch yn ddiogel.”