Fyddai 73% o bobol yng ngwledydd Prydain ddim yn teimlo’n well pe baen nhw’n cael gwylio pêl-droed eto yn ystod ymlediad y coronafeirws, yn ôl arolwg gan YouGov.

Cafodd mwy na 2,000 o bobol eu holi, a dim ond 19% ddywedodd y bydden nhw’n teimlo’n well o gael gwylio gemau eto.

Daw’r arolwg ar ôl i Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, ddweud y byddai cael gwylio chwaraeon eto’n “codi hwyliau’r genedl”.

Ar hyn o bryd, byddai strategaeth Llywodraeth Prydain yn galluogi gemau i gael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caôl i ddrysau caëedig o Fehefin 1, yn ddibynnol ar raddfa’r ymlediad yn gostwng.

Ond hyd yn hyn, dydy’r chwaraewyr ddim wedi cael dychwelyd i’r cae ymarfer.

Pryderon chwaraewyr

Mae nifer o chwaraewyr wedi mynegi pryderon am ddychwelyd i’r byd chwaraeon.

Yn ôl y pêl-droediwr Danny Rose, dydy “hwyliau’r genedl” ddim yn uchel ar restr flaenoriaethau’r chwaraewyr.

“Mae bywydau pobol yn y fantol,” meddai.

“Ddylai neb fod yn siarad am bêl-droed yn dychwelyd tan fod y niferoedd wedi gostwng yn sylweddol.”

Mae Raheem Sterling yn cytuno, gan ddweud bod angen dychwelyd “am resymau amgenach na phêl-droed” a bod angen sicrhau ei bod yn ddiogel.

“Mae fy ffrindiau wedi colli neiniau, dw i hefyd wedi colli aelodau’r teulu.

“Rhaid i chi fod yn ddoeth a gofalu amdanoch chi’ch hunain a’r rhai sydd o’ch cwmpas chi.”