Mae Graham Potter, cyn-reolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad yw e eisiau trafod na meddwl am gemau pêl-droed eto yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Mae trafodaethau ar y gweill ynghylch y posibilrwydd o gynnal gemau eto, ond dydy rheolwr Brighton ddim yn teimlo bod y trafodaethau’n briodol tra bod pobol yn dal i golli eu bywydau.

Daeth gemau i ben ganol mis diwethaf ac mae 20,000 o bobol bellach wedi marw yn sgil y feirws yng ngwledydd Prydain.

Cyn i’r feirws daro’r byd, roedd Graham Potter wedi colli ei fam a’i dad o fewn misoedd i’w gilydd.

“Dw i’n ei chael yn eitha’ heriol, yn bersonol,” meddai.

“Rydyn ni’n siarad am bêl-droed tra bod yn agos i 20,000 o bobol yn marw.

“Mewn llawer o achosion, dydy pobol ddim hyd yn oed yn gallu dal llaw y person sy’n marw, sy’n dorcalonnus.

“Dw i’n gwybod o’m profiadau fy hun fod colli rhieni’n ddigon anodd.

“Ond mae eu colli nhw i feirws y gallen ni fod wedi gwneud rhywbeth yn ei gylch…

“Nid y drafodaeth yma am ba bryd i chwarae pêl-droed a bod yn ddiogel wrth wneud hynny yw’r peth pwysicaf i ni fod yn ei ystyried.

“Tra ein bod ni eisiau siarad am bêl-droed a phryd allwn ni ddechrau chwarae pêl-droed, y realiti yw ein bod ni yng nghanol sefyllfa erchyll lle mae bywydau’n cael eu cwtogi a dydy pobol ddim yn gallu dal dwylo’u hanwyliaid wrth iddyn nhw farw.

“Dyna’r peth sy’n rhaid i ni ei gofio, mewn gwirionedd, wrth i ni ystyried beth yw’r ffordd ymlaen.”

Sut mae’n gweld y tymor yn gorffen?

Mae lle i gredu na fydd unrhyw dorf yn cael mynd i gemau am weddill y tymor.

Ond fe fydd yn rhaid i’r awdurdodau ystyried sut i orffen y tymor.

Er enghraifft, fe fu’n rhaid i Brighton herio Lerpwl, Manchester City a Manchester United oddi cartref cyn i’r tymor gael ei ddirwyn i ben ond mae’n debygol na fyddan nhw’n cael y fantais o herio’r timau hynny gartref.

“Mae’n gêm yn yr Uwch Gynghrair ond dydy’r angerdd nac ymrwymiad y dorf ddim yno,” meddai Graham Potter.

“Rhaid i chi ymdrin â hynny wrth chwarae pêl-droed ar y cae ymarfer, er enghraifft, oherwydd does neb yno bryd hynny.

“Ond unwaith fyddwn ni’n cyrraedd y pwynt lle mae’n diogel chwarae gêm yn yr Uwch Gynghrair y tu ôl i ddrysau caëedig, bydd chwarae pêl-droed jyst yn achlysur emosiynol.

“Dw i’n credu y bydd yn foment ingol i bawb.

“Mae’n un rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr ati, ond mae’n mynd i fod yn heriol hefyd.”