Mae dau o asgellwyr Cymru, Gareth Bale a Daniel James wedi cymryd rhan mewn twrnament ar y gêm gyfrifiadurol FIFA 20 i godi arian at ymgyrch Combat Corona Unicef.

Chwaraeodd Gareth Bale yn erbyn ymosodwr Juventus Paulo Dybala tra’r oedd Daniel James yn herio chwaraewr canol cae Chelsea, Billy Gilmour.

Dewisodd Gareth Bale chwarae fel Manchester City, gyda Paulo Dybala yn dewis Real Madrid ond yn cadw Gareth Bale ar y fainc.

Colli o 3-1 oedd hanes Gareth Bale.

Ond cafodd Daniel James well amser ohoni wrth guro Billy Gilmour o 3-1 yn eu gêm gyntaf ac o 1-0 yn yr ail ornest.

“Dyma’r peth lleiaf y gallwn ei wneud i godi arian ar gyfer Unicef a’r frwydr yn erbyn y feirws,” meddai Gareth Bale.

“Yn amlwg mae pawb yn styc gartref ac yn ceisio cadw’n saff felly beth am godi gymaint o arian ag y gallwn ni?”