Mae Ben Cabango yn annog cefnogwyr tîm pêl-droed Abertawe i fod “yn ddiogel” yn ystod ymlediad y coronafeirws, ac mae’n canmol ymateb y clwb i’r argyfwng.

Mae’r Cymro Cymraeg o Gaerdydd a’i gyd-chwaraewyr wedi cael rhaglenni ymarfer unigol yn ystod y cyfnod pan fo safle hyfforddi’r clwb yn Fairwood ynghau, ar ôl i’r tymor pêl-droed gael ei ohirio tan o leiaf Ebrill 30.

Mae’r clwb yn gweithredu ar sail cyngor gan Lywodraeth Prydain, ac mae cyn-ddisgybl Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd yn annog y cefnogwyr i “wneud beth sy’n iawn iddyn nhw a’u teuluoedd”.

‘Iechyd a diogelwch yn bwysicach na phêl-droed’

“Dw i’n credu taw’r neges dw i a’r bois eisiau ei hanfon i’r cefnogwyr yw byddwch yn ddiogel,” meddai.

“Bydden ni i gyd wrth ein boddau’n cael bod allan yn chwarae a’u cael nhw [y cefnogwyr] yn bloeddio eu cefnogaeth wrth i ni gwrso lle yn y gemau ail gyfle ond ar adegau fel hyn, mae iechyd a diogelwch pobol yn bwysicach na phêl-droed.

“Gobeithio bod pawb yn ymdopi’n iawn â’r heriau ry’n ni i gyd yn eu hwynebu, a’r cyfan allwn ni ei ddweud, wir, yw edrychwch ar ôl eich hunain a’ch teuluoedd, a byddwch yn ddiogel.”

Paratoi

Fe fu’r rheolwr Steve Cooper a’i dîm hyfforddi’n paratoi ers rhai wythnosau ar gyfer y posibilirwydd y byddai’r tymor yn dirwyn i ben a chyfleusterau hyfforddi’n cael eu cau.

Mae’r paratoadau hynny’n golygu bod y chwaraewyr mewn sefyllfa dda i ymdopi, yn ôl Ben Cabango.

“Mae’n sefyllfa sydd wedi cael ei thaflu aton ni, ond dw i’n credu bod strwythur y clwb wedi disgleirio yn nhermau pa mor barod rydyn ni wedi bod,” meddai.

“Mae wedi sicrhau nad yw pethau wedi dod o nunlle ac y gallwn ni baratoi i weithio mewn amgylchfyd diogel.

“Mae’r staff yn gwneud popeth fedran nhw i’n cadw ni’n ffit ac yn barod.

“Dw i’n gwybod fod cit ymarfer wedi cael ei ollwng yng nghartrefi rhai o’r bois, tra bod [yr hyfforddwr ffitrwydd] David Tivey wedi rhoi rhaglenni i ni weithio arnyn nhw fel y gallwn ni barhau i fod yn ffit.

“Mae hynny’n cynnwys nifer o bethau, er enghraifft un ohonyn nhw yw gwibio os oes gyda chi wagle neu gae i’w ddefnyddio gartref.

“Mae yna rediadau hirach yn y cymysgedd hefyd.

“Yn amlwg mae rhywfaint ohono fe’n fwy anodd os na allwch chi fynd i’r gampfa ond os oes gyda chi eich gofod eich hun i setio i fyny, mae pethau eraill fedrwch chi eu gwneud.

“Y pwynt yw y gall unrhyw beth ddigwydd, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod.”