Mae buddugoliaeth tîm pêl-droed Abertawe dros Gaerdydd yn Stadiwm Liberty yn gynharach y tymor hwn yn cael ei dangos eto ar wefan yr Elyrch.

Daeth y gêm i’r brig mewn pleidlais gan y clwb, wrth iddyn nhw gyhoeddi bwriad i ddangos hen gemau am 3 o’r gloch ac yng nghanol wythnos gan fod y tymor wedi dirwyn i ben am y tro oherwydd y coronafeirws.

Mae’r Elyrch hefyd yn defnyddio Twitter i ffrydio’r sylwebaeth destun yn fyw.

Peniodd Ben Wilmot y bêl i’r rhwyd wrth sgorio unig gôl y gêm oddi ar groesiad o gic gornel gan Wayne Routledge ar ôl 23 munud.

Bydd gêm arall yn cael ei dangos am 7.45 nos Fercher (Mawrth 25).