Mae Ben Cabango, y Cymro Cymraeg, wedi ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Pêl-droed Abertawe am ddau dymor ychwanegol.

Mae’n golygu y bydd e dan gytundeb tan haf 2023.

 

Mae’r amddiffynnwr canol o Gaerdydd wedi mwynhau ei dymor cyntaf gyda’r tîm cyntaf hyd yn hyn, gan fagu perthynas dda gyda’i gydwladwr Joe Rodon – y tro cyntaf i ddau Gymro chwarae yng nghanol amddiffyn yr Elyrch ers 1997.

 

Ben Cabango yw’r chwaraewr cyntaf yn nhîm yr Elyrch i’w eni yn y ganrif hon, ac mae e wedi chwarae mewn 16 o gemau i gyd.

Ieuenctid

Fe fu’n gapten ar bob tîm oedran gyda’r clwb er pan oedd e’n 14 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Plasmawr.

 

Treuliodd e gyfnod ar fenthyg gyda’r Seintiau Newydd yn 2018-19, gan sgorio mewn gêm ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, ac roedd e’n aelod o dîm ieuenctid yr Elyrch gododd Gwpan Ieuenctid Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod yr un tymor.