Carlisle 2–0 Casnewydd                                                                   

Colli fu hanes Casnewydd wedi iddynt wneud y daith hir i Gaerliwelydd i wynebu Carlisle United yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Roedd goliau hanner cyntaf Omari Patrik a Josh Kayode yn ddigon i’r tîm cartref yn Brunton Park.

Pum munud yn unig a oedd ar y cloc pan beniodd Patrick Carlisle ar y blaen o gic gornel.

Dyblodd Kayode’r fantais o’r smotyn ddeuddg munud cyn yr egwyl yn dilyn trosedd Dale Gorman ar Jack Bridge.

Aeth noson Casnewydd o ddrwg i waeth funud o ddiwedd yr hanner cyntaf pan dderbyniodd Ryan Inniss gerdyn coch am drosedd ar Kayode.

Rhoddodd hynny ddiwedd ar unrhyw obaith a oedd gan yr Alltudion o daro nôl yn yr ail hanner a bu rhaid i Tom King fod ar ei orau yn y gôl i gadw’r sgôr fel yr oedd hi.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Mike Flynn yn y pymthegfed safle yn y tabl.

.

Carlisle

Tîm: Collin, G. Jones, Hayden, Hunt, Anderton, Bridge (Thomas 69’), Watt, M. Jones, Alessandra, Kayode (Charters 79’), Patrick (Iredale 86’)

Goliau: Partick 5’, Kayode [c.o.s.] 33’

Cardiau Melyn: A Hayden Anderton

.

Casnewydd

Tîm: King, Inniss, Bennett, Demetriou, Willmott, Gorman, Dolan (Labadie 12’), Haynes, Sheehan, Green (Waters 82’), Amond (Matt 56’)

Cerdyn Melyn: Gorman

Cerdyn Coch: Inniss 44’

.

Torf: 2,822