Wrecsam 0–0 Eastleigh                                                                    

Mae Wrecsam yn parhau’n beryglus o agos at safleoedd disgyn Cynghrair Genedlaethol Lloegr yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Eastleigh ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Roedd hwn yn gyfle gwych i’r Cymry godi o’r perygl wrth iddynt wynebu un o’r tiamau o’u cwmpas ond mae’r ddau dîm mewn brwydr o hyd ar ôl iddynt rannu’r pwyntiau.

Jordan Pontcelli a ddaeth agosaf at ei hennill hi i Wrecsam ond cafodd ei atal gan luman y dyfarnwr cynorthwyol.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Dean Keates yn y pedwerydd safle ar bymtheg, ddau bwynt uwch ben y pedwar isaf gyda naw gêm yn weddill.

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Thompson, Kennedy, Carrington, Lawlor, Pearson, Young, Harris, Kellior-Dunn, Jarvis (Rutherford 60’), Ponticelli

Cerdyn Melyn: Harris 77’

.

Eastleigh

Tîm: Stryjek, Partington, Green, Smart (Scrimshaw 67’), Boyce, Baldwin, Payne, Miley, Hollands, Grubb (Bearwish 80’), Barnett (Rendell 80’)

Cardiau Melyn: Payne 59’, Barnett 64’

.

Torf: 3,436