Casnewydd 1–0 Morecambe                                                         

Roedd gôl Dale Gorman hanner ffordd trwy’r ail hanner yn ddigon i Gasnewydd wrth iddynt groesawu Morecambe i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe ddaeth unig gôl y gêm yn yr ail hanner a gôl daclus a oedd hi hefyd wrth i Gorman godi’r bêl yn gelfydd dros Chris Mafoumbi yn y gôl.

Mae’r tri phwynt yn gadael tîm Mike Flynn yn bymthegfed yn y tabl, yn ddigon pell o safle’r gwymp ond yn rhy bell o’r safleoedd ail gyfle hefyd.

.

Casnewydd

Tîm: King, Inniss, Bennett, Demetriou, Gorman, Willmott, Sheehan, Dolan, Haynes, Matt, Abrahams (Green 62’)

Gôl: Gorman 67’

Cardiau Melyn: Gorman 26’, Dolan 90+5’

.

Morecambe

Tîm: Mafoumbi, Cooney, Old, Lavelle, Cranston, Diagouraga, Kenyon (Brewitt 87’), Wildig, O’Sullivan, Slew (Oates 80’), Mendes Gomes (Bradbury 68’)

Cardiau Melyn: Slew 26’, Bradbury 90+7’

.

Torf: 3,048