Y Seintiau Newydd 2–2 Y Barri                                                      

Collodd y Seintiau Newydd gyfle i gau’r bwlch ar frig y Cymru Premier wrth iddynt orfod bodloni ar gêm gyfartal gartref yn erbyn y Barri ar Neuadd y Parc nos Wener.

Roedd gan bencampwyr y tymor diwethaf gyfle i gau’r bwlch ar y brig i ddau bwynt wedi i Gei Connah gael gêm gyfartal yn y Bala, ond maent yn aros bedwar pwynt y tu ôl i’r Nomadiaid ar ôl ildio gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Dechreuodd y Seintiau ar dân gyda dwy gôl gan y blaenwr, Dean Ebbe, yn y deg munud cyntaf.

Peniodd y gyntaf o groesiad Jamie Mullan wedi dim ond dau funud cyn penio’r ail yn dilyn methiant y Barri i glirio’r bêl o’r cwrt chwech wedi cic gornel.

Ebbe a oedd yn edrych fwyaf tebygol o rwydo trydedd y Seintiau ond methodd ambell gyfle i gwblhau ei hatric a dwy gôl a oedd ynddi o hyd ar yr egwyl.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Barri ddeg munud wedi’r egwyl pan anelodd Luke Cummings groesiad yn syth i gornel uchaf y gôl!

Tarodd Ebbe y postyn i’r Seintiau wedi hynny ond aeth y pencampwyr i edrych yn fwyfwy nerfus wrth i’r chwiban olaf agosáu.

Ac yn wir, yn yr ail funud o amser brifo ar ddiwedd y gêm fe fethodd Blaine Hudson a chlirio cic gornel ac fe wyrodd y bêl oddi ar Aeron Edwards i’w rwyd ei hun i roi pwynt annisgwyl i’r Barri.

Mae’r ddrama hwyr yn gadael tîm Scott Ruscoe bedwar pwynt y tu ôl i Gei Connah yn y tabl gyda chwe gêm yn weddill, gan gynnwys un gêm yn erbyn ei gilydd.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Marriott, Ebbe, Brobbel, Redmond, Cieslewicz (Draper 75’), Hudson, Mullan, Edwards, Holland

Goliau: Ebbe 3’, 11’

Cardiau Melyn: Holland 34’, Redmond 75’, Draper 90′

.

Y Barri

Tîm: Lewis, Hugh, Cooper, R. Patten (Compton 79’), McLaggon, J. Cotterill (Reffell 79’), Fahiya (Press 79’), Cummings, Wharton, Touray, K. Patten

Goliau: Cummings 56’, Edwards [g.e.h.] 90+2’

Cerdyn Melyn: J. Cotterill 28’