Mae rheolwr Cymru Ryan Giggs yn hyderus y bydd Gareth Bale yn parhau i wneud cyfraniad enfawr i garfan Cymru er nad yw’n cael chwarae yn aml i Real Madrid.

Dyw’r asgellwr ddim ond wedi dechrau 11 o 26 gêm y Los Blancos yn y gynghrair y tymor hwn gan arwain rhai i amau a fydd o’n rhydlyd erbyn Ewro 2020.

Ond does gan Ryan Giggs ddim amheuaeth pa mor bwysig yw Gareth Bale i’w dîm.

“Mae o’n wych ar y cae ac oddi ar y cae, mae o wrth ei fodd yn mynd i ffwrdd gyda’i ffrindiau â Chymru a wastad yn teimlo gartref pan mae’n troi fyny am gemau rhyngwladol,” meddai Ryan Giggs.

Hal Robson-Kanu

Dyw Ryan Giggs ddim wedi diystyru Hal Robson-Kanu’n dychwelyd i’r garfan.

Mae’r blaenwr wedi sgorio 10 gôl mewn 20 gêm i West Brom yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Gwnaeth Hal Robson-Kanu ymddeol yn haf 2018 ond aeth yn ôl ar y penderfyniad hwnnw yn gynharach eleni.

“Mae pawb dal yn bosibilrwydd,” meddai Ryan Giggs.

Cynghrair y Cenhedloedd

Mae Ryan Giggs wedi bod yn Amsterdam i ddarganfod pwy fydd Cymru’n wynebu yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2020-21.

Bydd Cymru’n herio Gweriniaeth Iwerddon, y Ffindir a Bwlgaria yn ystod yr hydref.

“Sypreis sypreis rydan ni’n wynebu’r Weriniaeth eto,” meddai Ryan Giggs.

“Rydan ni wedi chwarae yn eu herbyn lot yn ddiweddar ac maen nhw’n dîm sy’n rhaid eu parchu.”