Mae Ryan Giggs wedi ymateb i drefn gemau Cynghrair y Cenhedloedd, ar ôl i dîm pêl-droed Cymru ddarganfod pryd fyddan nhw’n herio Gweriniaeth Iwerddon, y Ffindir a Bwlgaria.

Bydd Cymru’n herio Gweriniaeth Iwerddon unwaith eto yn y gystadleuaeth ac yn ôl y rheolwr, roedd e’n disgwyl gorfod eu herio nhw, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

“Rydyn ni wedi chwarae yn eu herbyn nhw dipyn yn ddiweddar ac maen nhw’n dîm sy’n rhaid i chi ei barchu,” meddai.

“Mae gêm y Weriniaeth yn sefyll allan.

“Mae’r Ffindir yn dîm sydd newydd gymhwyso ar gyfer pencampwriaethau mawr am y tro cyntaf, ac yn dîm sydd ar i fyny.”

Trefn y gemau

Bydd ymgyrch Cymru’n dechrau gartref yn erbyn y Ffindir ar Fedi 3 cyn herio Bwlgaria oddi cartref dridiau’n ddiweddarach.

Dwy gêm oddi cartref sydd wedyn, yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar Hydref 10 a Bwlgaria ar Hydref 13.

Byddan nhw’n gorffen gyda dwy gêm gartref, yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar Dachwedd 13 a’r Ffindir ar Dachwedd 16.

“Cur pen” ar gyfer Ewro 2020

Ond cyn y gystadleuaeth hon, mae gan Gymru daith i Baku a Rhufain ar gyfer Ewro 2020, yr ail waith yn olynol iddyn nhw gymhwyso ar gyfer prif gystadleuaeth Ewrop.

Wrth edrych tua’r gystadleuaeth, dywed Ryan Giggs ei fod yn obeithiol y bydd ganddo fe garfan hollol ffit ar gyfer Ewro 2020.

“Mae gennym ni rai anafiadau ar hyn o bryd ond, os bydd pawb yn ffit, bydd gen i gur pen mawr iawn wrth ddewis y 23.”

Chwaraewyr allweddol

Mae Ryan Giggs hefyd yn edrych ymlaen at y profiad ychwanegol y bydd Aaron Ramsey yn ei gynnig I Gymru eleni.

“Mae mewn clwb gwych. Dyma ei flwyddyn gyntaf, ac mae wedi gwneud yn dda.

“Mae Aaron wedi bod yn chwarae’n rheolaidd drwy’r tymor ac rydyn ni’n edrych ymlaen iddo ymuno a ni.”

Er hyn mae’r hyfforddwr yn awyddus i weld Gareth Bale yn cael mwy o amser ar y bel ddiwedd y tymor.

“Er nad yw Gareth wedi chwarae ers rhai wythnosau, mae wedi bod yn chwarae’n iawn y tymor hwn.

“Y gobaith yw bod bob chwaraewr yn cael digon o gemau.

“Mae’r cydbwysedd hwnnw yn holl bwysig, dydych ddim eisiau iddyn nhw chwarae gormod o gemau, ond fel hyfforddwr rydych chi am iddyn nhw chwarae digon i ddod mewn i gemau’r haf yn ffres.”

Coronavirus

Er bod Ryan Giggs yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, fe gadarnhaodd ei fod yn ymwybodol iawn o fygythiad Coronavirus.

Cadarnhaodd fod Cymru yn aros i weld pa effaith bydd Coronavirus yn ei gael ar gemau pêl droed Cymru eleni.

“Rydyn ni mewn cysylltiad cyson â’r adran feddygol, ac maen nhw mewn cysylltiad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru,” meddai.

“Nid mater yn ymwneud a chwaraeon yn unig yw hwn, mae’n fater i bawb. Mae’n fater cyhoeddus”, meddai.

“Mae’n newid yn ddyddiol. Bydd yn rhaid i ni aros i weld beth sy’n digwydd. Gobeithio bydd bob dim yn iawn”.

Gemau Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Y Ffindir v Cymru – Dydd Iau, 3 Medi 2020

Cymru v Bwlgaria – Dydd Sul, 6 Medi 2020

Gweriniaeth Iwerddon v Cymru – Dydd Sadwrn, 10 Hydref 2020

Bwlgaria v Cymru – Dydd Mawrth, 13 Hydref 2020

Cymru v Gweriniaeth Iwerddon – Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2020

Cymru v Y Ffindir – Dydd Llun, 16 Tachwedd 2020