Oldham 5–0 Casnewydd                                                                  

Colli’n drwm fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Boundary Park i herio Oldham yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Rhwydodd y tîm cartref bum gwaith mewn buddugoliaeth swmpus.

Wedi chwarter cyntaf di sgôr, cymerodd Oldham reolaeth o’r gêm gyda dwy gôl mewn tri munud.

Rhoddodd Danny Rowe y tîm cartref ar y blaen cyn i Zachary Dearnley ddyblu’r fantais wedi gwaith creu Cameron Borthwick-Jackson ar y asgell.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gasnewydd ar ddechrau’r ail hanner wrth i Rowe rwydo ei ail ef a thrydedd ei dîm, y blaenwr yn derbyn y bêl yn y cwrt cosbi cyn troi ei ddyn a churo Tom King yn y gôl.

A throdd y fuddugoliaeth yn grasfa yn yr hanner awr olaf wrth i Tom Hamer a Jonny Smith ychwanegu pedwaredd a phumed gôl y tîm cartref.

Mae tîm Mike Flynn yn aros yn yr unfed safle ar bymtheg yn y tabl er gwaethaf y golled drom ond does dim dwywaith fod eu gobeithion main o gyrraedd y gemau ail gyfle bellach ar ben.

.

Oldham

Tîm: de la Paz, Hamer, Wheater, Piergianni, Borthwick-Jackson, Nepomuceno, Sylla (N’Guessan 90’), McCann (Missilou 86’), Smith, Rowe, Dearnley (Maouche 66’)

Goliau: Rowe 25’, 52’, Dearnley 27’, Hamer 62’, Smith 83’

.

Casnewydd

Tîm: King, Willmott (Howkins 56’), Inniss, Demetriou, Haynes, Nurse, Gorman, Green, Sheehan, Khan (Collins 45’), Matt (Dolan 75’)

Cerdyn Melyn: Demetriou 55’

.

Torf: 2,912