Grimsby 4–2 Casnewydd
Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Blundell Park i herio Grimsby yn yr Ail Adran nos Fawrth.
Roedd chwe gôl i gyd ond yn anffodus i’r Alltudion, y tîm cartref a sgoriodd bedair ohonynt mewn gêm gyffrous.
Rhoddodd Brad Garmston Grimsby ar y blaen o fewn y munud cyntaf wedi i Tom King arbed cynnig gwreiddiol Charles Vernam.
Roedd Jordan Green wedi i unioni pethau i Gasnewydd o fewn deg munud ond adferodd Josh Benson fantais y tîm cartref gyda chic rydd o bellter bum munud cyn yr egwyl.
Ymestynnodd foli James Hanson y fantais ar yr awr cyn i Padraig Amond roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr o Gymru.
Ond roedd y tri phywnt yn ddiogel pan wyrodd ergyd Max Wright dros ben King ac i gefn y rhwyd chwe munud o’r diwedd.
Mae’r canlyniad yn codi Grimsby dros Gasnewydd yn y tabl, gan adael yr Alltudion yn yr unfed safle ar bymtheg.
.
Grimsby
Tîm: McKeown, Hewitt, Waterfall, Pollock, Garmston, Clifton, Benson, Whitehouse (Green 59’), Tilley, Hanson (Wright 66’), Vernam (Clarke 77’)
Goliau: Garmston 1’, Benson 40’, Hanson 61’, Wright 84’
Cerdyn Melyn: Hanson 29’
.
Casnewydd
Tîm: King, Inniss (Labadie 45’), Bennett, Demetriou, Willmott, Gorman, Sheehan, Khan, Nurse, Green (Abrahams 71’), Matt (Amond 45’)
Goliau: Green 10’, Amond 68’
Cardiau Melyn: Inniss 39’, Labadie 73’
.
Torf: 3,578