Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi bod yn canu clodydd asgellwyr y tîm, gan ddweud eu bod nhw’n cynnig opsiwn gwahanol rhwng nawr a diwedd y tymor.

Mae e wedi bod yn gyndyn o ddewis asgellwyr am ran helaeth o’r tymor, gan ffafrio dull mwy uniongyrchol o symud y bêl i lawr y canol.

Ond yn y gêm yn erbyn Huddersfield ddydd Sadwrn, sgoriodd yr eilydd Jordon Garrick ac roedd y tîm yn edrych yn fwy cyfforddus yn gyffredinol gydag Aldo Kalulu yn symud y bêl ar draws y cae ar gyflymdra uchel, ac Andre Ayew yn symud ar draws y rheng flaen yn ôl yr angen.

“Cafodd Aldo ddylanwad da ac ry’n ni wrth ein boddau drosto fe ond mae fel unrhyw beth arall nawr, a fydd e’n gallu ailadrodd hynny os bydd galw?” meddai Steve Cooper.

“Yn y gêm fodern, mae angen chwaraewyr, asgellwyr sy’n gallu chwarae ar y tu fewn neu ar y tu allan.

“Mae gemau gwahanol yn benthyg eu hunain i syniadau amrywiol.

“Roedden ni’n credu bod y gêm yn erbyn Huddersfield yn un lle’r oedd angen o leiaf un asgellwr arnon ni ar y tu fewn, ac Aldo oedd hwnnw.

“Mae Andre yn symud o gwmpas, ac mae hynny’n rhan o’i gêm, ac fe brofodd i fod yn rhan bwysig o’r perfformiad.

“Os oes gyda chi’r opsiwn o ddewis asgellwyr, ar y tu fewn neu’r tu allan, yna mae hynny’n amlwg yn beth da.”

Eilyddion yn dwyn ffrwyth

Mae eilyddion yn sicr yn talu ar eu canfed i Steve Cooper yn ddiweddar.

Sgoriodd Jordon Garrick o’r fainc yn erbyn Huddersfield ac yn erbyn Hull wythnos a hanner yn ôl, a sgoriodd Rhian Brewster yn y gêm yn erbyn Hull hefyd ar ôl dod i’r cae yn eilydd.

Mater o lwc yw dewis pryd i eilyddio chwaraewyr, yn ôl Steve Cooper, sy’n cydnabod iddo gael cryn dipyn o lwc yn ddiweddar.

“Fe fu adegau pan wnaethon ni gadw chwaraewyr ar y cae pan allech chi’n hawdd iawn fod yn trafod a ddylen nhw fod yn dod i ffwrdd,” meddai.

“Fe allen nhw fod wedi gwneud yn dda, wedi sgorio gôl, wedi cynorthwyo gôl neu wedi cyfrannu at y gêm, ac fe fu adegau eraill pan ydyn ni wedi gwneud newidiadau a doedden nhw ddim wedi mynd o’n plaid ni.

“Ry’n ni wedi gwneud newidiadau lle mae [eilydd] wedi gwneud yn dda, a newidiadau eraill ddim wedi gwneud cystal.

“Felly drwy gydol y tymor, dw i ddim yn meddwl bod ’na gynllun i wneud un peth neu’r llall, ac ry’n ni’n cymysgu pethau.

“Yn amlwg, dros yr wythnosau diwetha’, mae’r eilyddion wedi dod ymlaen ac wedi cael dylanwad da iawn, nid yn unig wrth gyfrannu goliau ond wrth amddiffyn, eu hagwedd a gwrando ar y cyfarwyddiadau ry’n ni wedi’u rhoi iddyn nhw.

“Mae’n rhywbeth ry’n ni’n meddwl amdano fe gryn dipyn, hyd yn oed pan nad ydyn ni’n gwneud y newidiadau yn y pen draw, ond rhaid i chi gredu wedyn eich bod chi wedi gwneud y penderfyniadau cywir.

“Weithiau maen nhw’n mynd o’ch plaid chi, weithiau dydyn  nhw ddim.”

Hwb cyn herio Fulham

Waeth bynnag am eilyddion a phenderfyniadau cywir, mae’r fuddugoliaeth yn erbyn Huddersfield yn rhoi’r Elyrch mewn sefyllfa gref cyn teithio i Fulham, sy’n drydydd yn y Bencampwriaeth.

Fe fyddai buddugoliaeth yn cadw’r safleoedd ail gyfle o fewn cyrraedd i’r Elyrch, ond mae Steve Cooper yn dal i feddwl am un gêm ar y tro rhwng nawr a diwedd y tymor.

“Does dim llawer o amser gyda chi i feddwl cyn gemau canol wythnos, p’un a ydych chi’n ennill, colli neu’n cael gêm gyfartal ar y dydd Sadwrn,” meddai.

“Bydd hi’r un fath cyn Blackburn hefyd.

“Rhaid i chi anghofio’n gyflym am y gêm flaenorol, edrych ar yr hyn aeth yn dda a sut mae gwella, waeth bynnag am y canlyniad, a pharatoi ar gyfer y gêm nesa’.

“Mae hi mor syml â hynny.

“Mae hi’n amlwg yn hawdd iawn bod yn bositif ac optimistaidd ar ôl chwarae’n dda ac ennill.

“Ond yr hyn ry’n ni’n ceisio’i wneud fan hyn yw bod yn gyson yn y ffordd ry’n ni’n mynd ati gyda gemau, waeth bynnag beth yw’r canlyniad.

“Yr hyn ry’n ni’n gwybod yw fod gyda ni ddwy gêm anodd yr wythnos hon, ond dwy gêm dda mae’n rhaid i ni fynd atyn nhw mewn modd ymosodol er mwyn chwarae’n dda a’u hennill nhw.”