Caerdydd 2–2 Wigan                                                                         

Collodd Caerdydd gyfle i gau’r bwlch ar chwech uchaf y Bencampawriaeth gyda gêm gyfartal yn erbyn Wigan yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Kieffer Moore, ddwy gôl wrth i’r ymwelwyr o waelodion y tabl gipio pwynt annisgwyl.

Dechreuodd y gêm ar dân gyda dwy gôl yn yr wyth munud agoriadol. Sodlodd Moore Wigan ar y blaen o groesiad Sam Morsy cyn i Josh Murphy unioni pethau gyda hanner foli wedi tafliad hir Will Vaulks.

Felly yr arhosodd hi tan eiliadau olaf yr hanner cyntaf pan y dyfarnwyd cic o’r smotyn i’r ymwelwyr am lawiad gan Curtis Nelson yn y cwrt cosbi. Moore a gymerodd y gic a sgoriodd blaenwr Cymru ei ail o’r prynhawn.

Roedd Caerdydd yn gyfartal eto wedi deg munud o’r ail hanner wedi i Kal Naismith wyro ergyd Marlon Pack i’w rwyd ei hun.

Taflodd y tîm cartref bopeth at gwrt cosbi Wigan yn yr hanner awr olaf ond daliodd yr ymwelwyr eu gafael ar bwynt gwerthfawr.

Gyda Preston a Bristol City yn colli, roedd cyfle i Gaerdydd gau’r bwlch ar y timau uwch eu pennau, ond yn hytrach, maent yn llithro un lle i’r nawfed safle.

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Richards, Morrison, Nelson, Bennett (Bacuna 45’), Vaulks, Pack, Tomlin, Murphy (Hoilett 75’), Paterson (Ward 75’)

Goliau: Murphy 8’, Naismth [g.e.h.] 55’

Cardiau Melyn: Murphy 25’, Morrison 75’, Vaulks 80’

.

Wigan

Tîm: Marshall, Byrne, Kipre, Balogun, Naismith, Williams, Morsy, Evans (Gelhardt 65’), Lowe (Jacobs 85’), Moore, Massey (Pilkington 65’)

Goliau: Moore 5’, [c.o.s.] 45+4’

Cardiau Melyn: Evans 1’, Williams 31’, Gelhart 82’

.

Torf: 21,287