Hull 4–4 Abertawe                                                                             

Cafwyd clasur o gêm yn y Bencampwriaeth nos Wener wrth i Hull groesawu Abertawe i’r Stadiwm KC. Rhannodd y ddau dîm wyth gôl wrth iddi orffen yn gyfartal.

Dechreuodd y gêm ar dân gyda Hull yn mynd ar y blaen wedi dim ond chwe munud, croesiad Callum Elder yn adlamu’n garedig i Leonardo Lopes yn y cwrt cosbi a’r gŵr ifanc o Bortiwgal yn sgorio.

Roedd yr ymwelwyr o dde Cymru’n gyfartal o fewn saith munud serch hynny wrth i chwarae da rhwng Jake Bidwell a Conor Gallagher roi gôl ar blât i Wayne Routledge.

Patrwm tebyg iawn a oedd i ddechrau’r ail hanner gyda Hull yn mynd ar y blaen yn gynnar cyn i Abertawe unioni’n syth.

Gwyrodd ergyd o bellter Marcus Maddison dros Freddie Woodman i roi’r tîm cartref ar y blaen cyn i Kyle Naughton fanteisio ar amddiffyn gwarthus i daro nôl i’r Elyrch gyda tharan o ergyd postyn agosaf wedi cic gornel fer Matt Grimes.

Trodd y pendil unwaith eto ar yr awr wrth i Mallik Wilks adfer gôl o fantais Hull wedi rhagor o amddiffyn amheus. Tarodd cynnig gwreiddiol Wilks yn erbyn Jay Fulton ond chwaraewr Hull a ymatebodd gyflymaf i rwydo ar yr ail gyfle.

Ond yn ôl y daeth yr Elyrch drachefn gan fynd un yn well y tro hwn, nid yn unig yn unioni ond yn mynd ar y blaen hefyd.

Croedd gwaith da Andre Ayew ar yr asgell gôl i Jason Garrick ychydig funudau’n unig wedi iddo ddod i’r cae fel eilydd. Ac eilydd arall a’i gwnaeth hi’n bedair, Rhian Brewster yn curo George Long yn y gôl.

86 munud ar y cloc ac roedd y Cymry ar y blaen am y tro cyntaf ond roedd digon o amser i bethau newid eto. Roedd pum munud o amser a ganiateir am anafiadau wedi’u chwarae pan rwydodd eilydd Hull, Tom Eaves, i gipio pwynt i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn gadael tîm Steve Cooper yn y nawfed safle yn y tabl.

.

Hull

Tîm: Long, McKenzie, Pennington, McLoughlin, Elder, Da Silva Lopes, Batty (Honeyman 66’), Wilks (Eaves 81’), Maddison (Tafazzoli 67’), Irvine, Magennis

Goliau: Da Silva Lopes 6’, Maddison 50’, Wilks 61’, Eaves 90+5’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Naughton, Wilmot, Guehi, Bidwell, Fulton (Dhanda 64’), Grimes, Routledge (Brewster 64’), Gallagher, Celina (Garrick 73’), Ayew

Goliau: Routledge 13’, Naughton 55’, Garrick 77’, Brewster 84’

Cardiau Melyn: Wilmot 36’, Ayew 84’, Brewster 85’

.

Torf: 9,757