Mae rheolwr Abertawe Steve Cooper wedi cwyno am chwarae ymosodol Abertawe wedi iddynt fethu â chael yr un ergyd ar darged mewn gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn QPR.

Dyw Abertawe ddim ond wedi cymryd dau bwynt o’u pedair gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth.

“Does yno ddim diffyg gallu yn y tîm,” meddai Steve Cooper.

“Mae’n rhaid i ni fod yn well mewn sefyllfaoedd ymosodol, ond does dim diffyg ysbryd yn y tîm.”

Mae Steve Cooper wedi cael ei feirniadu gan rai o gefnogwyr Abertawe hefyd, a hynny am beidio gwneud llawer o ddefnydd o’i eilyddion.

Dim ond un newid wnaeth o yn erbyn QPR, sef eilyddio Yan Dhanda am Aldo Kalulu yn y 74ain munud.

“Mae rhai newidiadau wedi mynd o’n plaid ni a rhai yn ein herbyn eleni, mae’n rhaid i ni fyw gyda hynny,” meddai.