Mae rheolwr Caerdydd Neil Harris yn teimlo bod ei dîm wedi bod “yn lwcus” yn eu buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Luton.

Cafodd Luton sawl cyfle da yn yr hanner cyntaf gyda Chaerdydd yn lwcus i beidio ildio gôl.

Ond gyda 73 munud wedi mynd, sgoriodd Lee Tomlin ei seithfed gôl o’r tymor a sicrhau’r tri phwynt i Gaerdydd.

“Mi ddechreuon ni’r gêm yn dda, ond roedden ni’n flêr gyda’r bêl, ddaru achosi problemau i ni wrth iddyn nhw wrthymosod ac roeddwn i’n meddwl ein bod ni’n lwcus i beidio bod ar ei hôl hi hanner amser,” meddai Neil Harris.

“Roedd yr ail hanner yn llawer iawn gwell, yn lot fwy proffesiynol ac roedd yno gryn dipyn o ansawdd.”

Mae tîm Neil Harris bellach yn yr wythfed safle, bedwar pwynt o’r safleoedd ail gyfle.