Mae Zinedine Zidane, rheolwr tîm pêl-droed Real Madrid, yn mynnu nad oes problem rhyngddo fe, y clwb a Gareth Bale.

Chwaraeodd y Cymro am 71 munud gan gynorthwyo gôl Isco, wrth iddyn nhw guro Osasuna o 4-1.

Hwn oedd ei ymddangosiad cyntaf i’w glwb ers Ionawr 4 ac wrth i’r ras yn erbyn Barcelona am dlws La Liga boethi, mae’r rheolwr yn mynnu y bydd e’n chwaraewr pwysig am weddill y tymor.

Er y sïon y gallai adael y clwb yn yr haf, mae ei asiant yn mynnu ei fod e eisiau aros gyda Real Madrid am weddill ei gytundeb presennol.

“Mae e’n chwaraewr pwysig,” meddai Zinedine Zidane.

“Mae e wedi gwneud 65 munud da yn ymosodol ac yn amddiffynnol, mae e wedi gwneud ei orau ac mae e’n chwaraewr pwysig.

“Y broblem yw eu bod nhw eisiau bod problem gyda Gareth, ond does dim.”