Casnewydd 0–1 Caergrawnt                                                          

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt groesawu Caergrawnt i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn. Liam O’Neil a sgoriodd unig gôl y gêm i’r ymwelwyr.

Casnewydd a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond cafodd Jamille Matt ei atal ar ddau achlysur gan gôl-geidwad Caergrawnt, Callum Barton.

Daeth y gôl yn y diwedd, hanner ffordd trwy’r ail hanner, O’Neil yn rhwydo wedi i Tom King arbed cynnig gwreiddiol Paul Mullin.

Mae’r canlyniad yn rhoi tîm Mike Flynn yn y trydydd safle ar ddeg yn y tabl.

.

Casnewydd

Tîm: King, Leadbitter (Khan 65’), Inniss, Howkins (Abrahams 73’), Demetriou, Bennett, Labadie, Willmott, Sheehan (Amond 26’), Green, Matt

.

Caergrawnt

Tîm: Burton, Knoyle, Taylor, Darling (Taft 45’), Dunk, Davies, Lewis, O’Neil, Maris, Knibbs (Mullin 57’), Adeboyejo (Dallas 81’)

Gôl: O’Neil 68’

.

Torf: 3,336