Luton 0–1 Caerdydd                                                                          

Lee Tomlin a sgoriodd unig gôl y gêm wrth i Gaerdydd guro Luton ar Ffordd Kenilworth yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Luton a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond roedd y tîm ar waelod y tabl yn wastraffus o flaen gôl, gyda Harry Cornick yn euog o fethu’r cyfleoedd gorau.

Roedd yr ymwelwyr o Gymru yn well wedi’r egwyl ac fe ddaeth y gôl hir ddisgwyledig ddeunaw munud o’r diwedd wrth i Tomlin grymanu’r bêl i gefn y rhwyd o ochr y cwrt cosbi, ei drydedd gôl mewn pedair gêm.

Mae’r canlyniad yn gadael Luton ar waelod y tabl ac yn codi tîm Neil Harris i’r wythfed safle, bedwar pwynt o’r safleoedd ail gyfle.

.

Luton

Tîm: Sluga, Bree, Pearson, Carter-Vickers, Potts, Rea (Moncur 78’), Tunnicliffe (LuaLua 78’), Mpanzu, Brown (Berry 64’), Collins, Cornick

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Richards, Morrison, Nelson, Bennett, Vaulks, Pack, Adomah (Whyte 90+2’), Murphy (Hoilett 74’), Paterson

Gôl: Tomlin 73’

Cerdyn Melyn: Morrison 77’

.

Torf: 10,041