Mae asgellwr Cymru ac Abertawe, Connor Roberts, yn holliach yn dilyn anaf i’w ysgwydd ac ar gael ar gyfer gêm y clwb yn erbyn Derby County ddydd Sadwrn (Chwefror 8).

Nid oedd ar gael ar gyfer y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Preston ar ôl iddo orfod gadael y cae yn erbyn Stoke y penwythnos cynt.

Mae disgwyl hefyd i amddiffynnwr Cymru ac Abertawe, Joe Rodon, wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Stadiwm Liberty ers diwedd mis Hydref yn dilyn anaf i’w ffêr.

Bydd cael y ddau chwaraewr yn holliach yn hwb i Ryan Giggs wrth iddo fynd ati i ddewis ei garfan ar gyfer Ewro 2020.

Mae Abertawe yn wythfed yn y Bencampwriaeth a phedwar pwynt oddi ar safleoedd y gemau ail-gyfle ar hyn o bryd.