Cei Connah 3–0 STM Sports                                                           

Cei Connah yw pencmpwyr Cwpan Nathaniel MG wedi iddynt drechu STM Sports o Gaerdydd ar Barc Latham nos Sadwrn.

Roedd y tîm o adran gyntaf y de wedi gwnued yn dda iawn i gyrraedd y rownd derfynol, yn trechu dau dîm Uwch Gynghrair ar y ffordd, ond roedd Cei Connah yn un cam yn ormod.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd STM yn addawol a’r tîm o ardal Llaneirwg y brifddinas a gafodd gyfle cyntaf y gêm, Marcus Jones yn llusgo’i ergyd heibio’r postyn.

Ond wrth i’r hanner cyntaf fynd yn ei flaen dechreuodd Cei Connah reoli ac roedd Benjamin Boyer yn edrych braidd yn nerfus yn y gôl i STM.

Doedd fawr o syndod felly mai croesiad i’r cwrt chwech a arweiniodd at gôl agoriadol y Nomadiaid wedi hanner awr, Mike Wilde yn penio i gefn y rhwyd o berl o bêl gan Michael Bakare.

Un debyg iawn a oedd yr ail gôl ddeuddeg munud yn ddiweddarach, peniad cadarn gan y profiadol, Wilde, o groesiad cywir Kris Owens y tro hwn, dwy gôl i ddim ar yr egwyl a’r tîm o’r Uwch Gynghrair yn rheoli.

Ail Hanner

Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel o fewn eiliadau o’r ail ddechrau wedi i Gei Connah rwydo’r drydedd.

Croesiad at Wilde a arweiniodd at hon hefyd ond yn hytrach na anelu at gôl y tro hwn peniodd y bêl i’w gyd flaenwr, Jamie Insall, a sgoriod yntau gôl hyfryd, yn troi ac yn anelu foli berffaith i gefn y rhwyd mewn un symudiad.

Parhau i reoli’n llwyr a wnaeth y tîm o’r gogledd ddwyrain wedi hynny a dechreuodd eu gwrthwynebwyr golli eu disgyblaeth braidd gan dderbyn toreth o gardiau melyn.

Wilde a’r eilydd, Craig Curran, a gafodd y cyfleoedd gorau i sgorio pedwaredd Cei Connah ond er clod iddo, er na chafodd y gêm orau cyn hynny, fe wnaeth Boyer sawl arbediad da yn yr hanner awr olaf i gadw’r sgôr i lawr i dair.

Ond roedd tair yn ddigon i dîm Andy Morrison wrth i’r Nomadiaid godi Cwpan y Gynghrair am y tro cyntaf ers 1996.

.

Cei Connah

Tîm: Brass, Farquharson (Disney 83’), Horan, Harrison, Bakare, Morris, Wilde, Insall (Singh-Dool 70’), Holmes, Owen (Curran 58’), Owens

Goliau: Wilde 30’, 42’, Insall 46’

Cerdyn Melyn: Horan 85’

.

STM Sports

Tîm: Boyer, Yohannes, Mackenzie, Rutherford, Biggs, Hajgato, Evans (Worsley 66’), Jones (Cawley 83’), Ahmun, Graham, Bateman (Frick 69’)

Cardiau