Plymouth 1–0 Casnewydd                                                              

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt ymweld â Home Park i herio Plymouth yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Daeth yr unig gôl yn gynnar yn y gêm a methodd Casnewydd a tharo nôl er i Plymouth orffen gyda deg dyn.

Pum munud yn unig a gymerodd hi i’r tîm cartref fynd ar y blaen a chwaraewr sydd yn gyfarwydd iawn i Gasnewydd a oedd y sgoriwr. Treuliodd Tyreeq Bakinson y tymor diwethaf ar fenthyg ar Rodney Parade o Bristol City cyn ymuno â Plymouth ar fenthyg y tymor hwn, y chwaraewr canol cae yn sgorio o gic gornel George Cooper.

Cafodd Joss Labadie a Padraig Amond gyfleoedd i unioni pethau yn yr ail hanner ond daliodd Plymouth eu gafael, hyd yn oed wedi i Gary Sawyer dderbyn cerdyn coch hwyr am dacl wael ar Jordan Green.

Mae tîm Mike Flynn yn llithro i’r deuddegfed safle yn y tabl yn dilyn y golled ac mae eu gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle yn dechrau diflannu.

.

Plymouth

Tîm: Palmer, Wooton, Canavan, Sawyer, Moore, Grant (Edwards 62’), Bakinson, Mayor, Cooper, Hardie (Randell 90’), Jephcott (Taylor 82’)

Gôl: Bakinson 5’

Cardiau Melyn: Hardie 79’, Palmer 90+4’

Cerdyn Coch: Sawyer 85’

.

Casnewydd

Tîm: King, Demetriou, Bennett, Baker (Howkins 56’), Willmott, Labadie, Sheehan, Haynes (Nurse 5’), Amond (Waters 74’), Matt, Green

Cardiau Melyn: Labadie 85’, Matt 90+3’

.

Torf: 10,956