Reading 1–1 Caerdydd                                                                     

Bydd yn rhaid i Gaerdydd a Reading ail chwarae eu gêm bedwaredd rownd yn y Cwpan FA ar ôl iddi orffen yn gyfartal yn Stadiwm Madejski brynhawn Sadwrn.

Roedd gêm gyffrous ar y gweill yn dilyn goliau cynnar Paterson a Meite ond di sgôr a oedd yr 82 munud wedi hynny a bydd yn rhaid ail chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd i setlo pethau.

Dechreuodd y gêm ar dân gyda’r ddau dîm yn sgorio yn yr wyth munud agoriadol.

Rhoddodd Callum Paterson yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen yn dilyn peniad Josh Murphy i’w lwybr wedi dim ond pum munud. Ond roedd Reading yn gyfartal dri munud yn ddiweddarach wedi i bas Charlie Adam wyro’n garedig i Yakou Meite yn y cwrt cosbi.

Prif ddigwyddiad yr hanner cyntaf wedi hynny a oedd cyhoeddiad dros yr uchelseinydd yn rhybuddio cefnogwyr Caerdydd rhag defnyddio iaith hiliol a homoffobig.

Y peth olaf yr oedd y ddau dîm, sydd yn wynebu ei gilydd yn y gynghrair nos Wener hefyd, ei angen oedd gêm ail gyfle ond roedd hynny’n ymddangos yn gynyddol debygol wrth i’r ail hanner fynd yn ei flaen.

Gorffennodd Reading y gêm gyda deg dyn yn dilyn ail gerdyn melyn i Tom McIntyre ac fe ddylai Sol Bamba fod wedi ei hennill hi i Gaerdydd yn y munudau olaf ond peniodd yr amddiffynnwr heibio’r postyn o ddwy lath!

Dim amdani ond ail chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd mewn wythnos a hanner felly a bydd y ddau dîm yn adnabod ei gilydd yn dda iawn erbyn hynny!

.

Reading

Tîm: Walker, Howe, Miazga (Ocho 66’), McIntyre, Richards, McCleary, Rinomhota, Adam, Meite, Aluko, Loader (House 74’(Burley 83’))

Gôl: Meite 8’

Cardiau Melyn: Meite 9’, McIntyre 45+1’, 81’, Howe 90+1’

Cerdyn Coch: McIntyre 81’

.

Caerdydd

Tîm: Smithies, Bacuna, Bamba, Flint, Bennett, Ralls (Pack 30’), Vaulks, Murphy (Hoilett 78’), Whyte, Glatzel, Paterson

Gôl: Paterson 5’

.

Torf: 12,798