Stoke 2–0 Abertawe                                                                          

Collodd Abertawe gyfle i godi i safleoedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth wrth golli oddi cartref yn erbyn Stoke yn Stadiwm Bet365 brynhawn Sadwrn.

Rhododd Sam Clucas y tîm cartref ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner cyn i gôl hwyr James McClean sicrhau’r tri phwynt.

Abertawe heb os a gafodd y gorau o’r gêm yn yr hanner cyntaf ond daeth Stoke iddi yn yr ail hanner a hwy a aeth ar y blaen ddeg munud ar ôl troi.

Ac i rwbio’r halen ym mriw Abertawe, dau gyn Alarch a gyfunodd ar gyfer y gôl, Joe Allen yn creu a Clucas yn rhwydo.

Teg dweud o edrych ar ddathliadau Clucas nad oes llawer o Gymraeg rhyngddo ef a’i gyn gefnogwyr bellach.

Bu bron i Abertawe unioni’n syth ond taro’r trawst a wnaeth cic rydd gelfydd Matt Grimes.

Wrth i amser ddiflannu roedd yn rhaid i’r Elyrch bwyso a rhoddodd hynny’r cyfle i Stoke wrthymosod.

A gwrthymosiad a arweiniodd at ail gôl y tîm cartref yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, James McClean yn ei orffen gydag ergyd gadarn.

Mae’r canlyniad yn gadael Abertawe yn seithfed yn y tabl, bwynt i ffwrdd o safleoedd y gemau ail gyfle.

.

Stoke

Tîm: Butland, Smith, Batth, Lindsay, Martins Indi, Allen, Clucas, Ince (Collins 87’), Powell, McClean, Vokes (Gregory 69’)

Goliau: Clucas 55’, McClean 90+1’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts (Rodon 76’), Cabango, Guehi, Bidwell (Baston 83’), Byers (Dhanda 77’), Grimes, Ayew, Gallagher, Celina, Brewster

Cardiau Melyn: Gallagher 25’, Baston 85’

.

Torf: 22, 593