Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn “obeithiol” o arwyddo cyn chwaraewr canol cael Cymru, Joe Ledley.

Mae’r chwaraewr canol cae 32 oed wedi bod yn ymarfer gyda Chasnewydd yn yr Ail Adran yn dilyn cyfnod byr gyda Charlton Athletic.

Ac mae’n debyg fod rheolwr Casnewydd Mike Flynn wedi cynnal trafodaethau â’r chwaraewr ac yn obeithiol o’i arwyddo.

“Mae’n rhywbeth y buasem yn hoffi ei wneud, fyddwn i ddim wedi siarad gydag efo pe bawn i ddim eisiau ei arwyddo,” meddai.

“Byddwn yn gwybod yn fuan gobeithio, o bosib wythnos nesaf.

“Mae’n chwaraewr penigamp.”