Mae adroddiadau y gallai Joe Ledley, chwaraewr canol cae Cymru, ymuno â Chlwb Pêl-droed Casnewydd.

Mae lle i gredu ei fod e wedi cynnal trafodaethau â’r Alltudion ar ôl cael ei ryddhau gan Charlton yr wythnos ddiwethaf.

Ymunodd â Charlton ddechrau mis Rhagfyr ond dim ond unwaith wnaeth e chwarae, ac fe ddaeth e oddi ar y cae ar yr egwyl yn y gêm honno yn erbyn Middlesbrough.

Fe fu allan am ddeg mis cyn ymuno â Charlton, ar ôl cael ei ryddhau o gytundeb byr gyda Derby.

Mae e wedi ennill 77 cap dros Gymru, ac mae lle i gredu ei fod e’n awyddus i ddychwelyd i’r wlad i fyw a chwarae.