Mae’r Cymro ifanc Jack Evans wedi ymestyn ei gytundeb â Chlwb Pêl-droed Abertawe fisoedd yn unig ar ôl gwella o ganser.

Bydd cytundeb newydd y chwaraewr canol cae o ardal Llansamlet yn ei gadw gyda’i glwb lleol tan haf 2021.

Bu’n rhaid iddo golli tymor 2018-19 oherwydd diagnosis a thriniaeth am ganser.

Bu’n gapten ar dîm dan 23 y clwb y tymor hwn, gan ymddangos 13 o weithiau yn Ail Adran yr Uwch Gynghrair.

Daeth e i’r cae i’r tîm cyntaf yn erbyn Cambridge United yng Nghwpan Carabao ar ddechrau’r tymor.

“Dw i wrth fy modd o gael llofnodi cytundeb arall gyda’r clwb hwn,” meddai.

“Mae’n golygu cymaint i fi gael aros yma ychydig yn hirach.

“Nawr fod y peth wedi cael ei sortio, mae’n bryd bwrw iddi a chanolbwyntio ar fy mhêl-droed.

“Mae’n rhoi mwy o amser i fi ddangos i’r rheolwr pwy ydw i a beth alla i ei gynnig i’r tîm pe bawn i’n cael y cyfle.

“Rhaid i fi barhau i wella bob dydd.

“Dim ots ar ba lefel ydw i, wna i fyth roi’r gorau i ddysgu.”

Mae’n un o griw o chwaraewyr ifainc o Gymru sy’n ceisio creu argraff yn Stadiwm Liberty, yn dilyn llwyddiant diweddar Ben Cabango a Jordon Garrick.

“Mae hynny’n rhoi ychydig o mwy o hyder i’r gweddill ohonon ni y cawn ni ein gwobrwyo os ydyn ni’n perfformio’n dda.

“Gobeithio y daw mwy o gyfleoedd i fi.”