Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e eisiau rhoi cyfle i chwaraewyr iau y clwb gael datblygu eu doniau yn Stadiwm Liberty.

Ers i’r Cymro gael ei benodi’n rheolwr ar ddechrau’r tymor, mae nifer o chwaraewyr iau wedi torri drwodd i’r tîm cyntaf ac maen nhw newydd ddenu Rhian Brewster, Marc Guehi a Conor Gallagher ar fenthyg, a’r tri o dan 20 oed.

Ac mae chwaraewyr eraill fel Jordon Garrick, Liam Cullen, Jack Evans a Brandon Cooper ar y cyrion yn chwarae i’r tîm dan 23 sydd heb gael fawr o gyfle i serennu eto.

“Rydyn ni eisiau rhoi cyfle da i’n chwaraewyr ein hunain, a dw i’n teimlo ein bod ni’n gwneud hynny gyda Benny, Jordon a hyd yn oed Brandon sydd ar y cyrion,” meddai’r rheolwr.

“Ac mae Liam yn rhan o’n cynlluniau ni. Mae e’n foi talentog a dw i’n teimlo’i fod e wedi treulio gormod o amser yn y tîm dan 23 oed. Dyna fy nheimladau amdano fe ac un neu ddau arall.

“Mae angen i ni ddod o hyd i raglen iddo fe mewn pêl-droed i ddynion, boed gyda ni neu allan ar fenthyg.

“Mae gyda fi ddiddordeb yn ei ddatblygiad fel pêl-droediwr oherwydd mae e’n chwaraewr y byddwn i wrth fy modd yn rhoi cyfle iddo fe rywbryd.

“Dydy e ddim yn bell o hynny fel mae e’n mynd ar hyn o bryd. Mae e’n foi hoffus hefyd a chanddo fe bersonoliaeth dda iawn a thipyn o hyder.

“Byddwn ni’n rhoi cyfle i’r chwaraewyr ifainc hyn i gael llwybr i mewn i’r tîm cyntaf.”

Golwr ifanc

Yn y cyfamser, mae’r golwr 22 oed, Josh Gould wedi symud i’r tîm cyntaf.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymadawiad Kristoffer Nordfeldt yr wythnos hon a’r newyddion fod Steven Benda am aros ar fenthyg gyda Swindon.

Roedd yr ymadawiadau’n golygu mai Freddie Woodman ac Erwin Mulder yn unig oedd yn ymarfer gyda’r tîm cyntaf cyn dyrchafu Josh Gould.

Ond dydy hynny ddim o reidrwydd yn golygu y bydd e’n cael cyfle i chwarae i’r tîm cyntaf y tymor hwn, yn ôl Steve Cooper.

“Rydyn ni’n ddigon hapus bod Josh yn dod i mewn ac yn ymarfer yn llawn amser gyda’r tîm cyntaf, ac mae e’n rhan o’r grŵp,” meddai.

“Does dim sicrwydd y bydd e’n cael chwarae i’r tîm cyntaf ond byddwn ni’n sicrhau eu bod nhw’n cael cyfleoedd i ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud ac os ydyn nhw’n gwneud hynny, byddan nhw’n dod i ymarfer gyda ni.

“Os ydyn nhw’n gwneud yn dda wedyn, byddan nhw’n chwarae.

“Fydd pa mor bell maen nhw’n mynd ddim yn ddibynnol ar ddiffyg cyfleoedd, fe fydd yn ymwneud â dilyn y camau yn ystod y broses.”