Mae Ben Cabango yn dweud bod record amddiffynnol tîm pêl-droed Abertawe yn arwydd ei fod e’n magu hyder.

Fe wnaeth y Cymro Cymraeg 19 oed dorri trwodd i’r tîm cyntaf wrth chwarae yng Nghwpan Carabao ar ddechrau’r tymor, ac mae e bellach yn chwarae yn y Bencampwriaeth ochr yn ochr â Ben Wilmot, amddiffynnwr 20 oed sydd ar fenthyg o Watford.

Mae’r ddau yn chwarae yn absenoldeb Mike van der Hoorn a Joe Rodon, ac mae ganddyn nhw oedran at ei gilydd o 39.

Mae’r Elyrch wedi cadw pedair llechen lân yn eu pum gêm diwethaf, gan gynnwys y gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd dros y penwythnos.

“Rydan ni wedi cadw pedair llechen lân mewn pum gêm, felly mae’n rhaid ein bod ni’n gwneud rhywbeth yn iawn yn y cefn,” meddai.

“Mae cadw llechen lân bob amser yn rhoi’r cyfle gorau i chi ennill gêm, ond nid ein tro ni oedd o o flaen y gôl ddydd Sul.

“Mae popeth yn dechrau dod at ei gilydd yn yr ystyr hynny.

“Yng nghanol y tymor, doedden ni ddim yn gwneud yn dda yn hynny o beth ac roedden ni’n ildio goliau.

“Ond nawr fod pawb fel pe baen nhw’n gwybod eu rolau, yn enwedig yn y chwarae gosod, dydyn ni ddim yn ildio rhyw lawer.

“Rydan ni’n rhoi popeth yn y fantol er mwyn sicrhau nad yw’r bêl yn mynd i mewn.”

Partneriaeth â Ben Wilmot

Yn ôl Ben Cabango, mae ei bartneriaeth â Ben Wilmot yn gwella bob gêm, ac fe gawson nhw eu canmol gan y rheolwr Steve Cooper ar ôl y gêm ddarbi ddi-sgôr.

“Dw i’n credu ’mod i a Ben yn chwarae’n dda efo’n gilydd,” meddai.

“Rydan ni’n siarad efo’n gilydd ac yn helpu gêm ein gilydd; mae o bob amser yn gwarchod fy nghefn a dw i’n gwarchod ei gefn o.

“Rydan ni’n bartneriaeth dda ac wedi dangos hynny.”