Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi denu’r asgellwr Jordan Green ar fenthyg o Barnsley am weddill y tymor.

Mae disgwyl i’r chwaraewr 24 oed fod ar gael i herio Swindon yn yr ail adran ddydd Sadwrn (Ionawr 19).

Ymunodd e â Barnsley o Yeovil fis Ionawr y llynedd, gan chwarae mewn 12 o gemau i’r tîm sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth.

Daeth ei unig gôl i Barnsley mewn gêm yn erbyn Southend fis Mawrth y llynedd, wrth i Barnsley gael eu dyrchafu i’r Bencampwriaeth.

“Bydd y cyfle hwn yn cynnig pêl-droed rheolaidd i fi a gobeithio y galla i helpu i wthio’r clwb i fyny i ben cywir y tabl.”