Mae’r golwr Kristoffer Nordfeldt wedi gadael Clwb Pêl-droed Abertawe ar drosglwyddiad rhad ac am ddim.

Mae’n ymuno â chlwb Genclerbirligi ym mhrif adran Twrci ychydig fisoedd cyn i’w gytundeb ddirwyn i ben yn yr haf.

Mae’n cwblhau’r trosglwyddiad ar ôl pasio prawf meddygol.

Mae disgwyl iddo gael ei gynnwys yn y garfan i herio Rizespor ddydd Llun nesaf (Ionawr 20).

Chwaraeodd e mewn 47 o gemau i’r Elyrch dros gyfnod  o bedair blynedd a hanner, ar ôl symud o glwb Heerenveen yn yr Iseldiroedd.

Mae e wedi chwarae mewn pedair gêm gwpan y tymor hwn, ond prin fu ei gyfleoedd ar ôl i Freddie Woodman ymuno â’r clwb ar fenthyg o Newcastle.

Treuliodd e gyfnodau y tymor diwethaf yn brwydro ag Erwin Mulder am le yn y gôl.

Conor Gallagher

Yn y cyfamser, mae’r Elyrch yn awyddus i ddenu’r chwaraewr canol cae 19 oed, Conor Gallagher i Stadiwm Liberty. 

Treuliodd e hanner cynta’r tymor ar fenthyg yn Charlton, gan sgorio chwe gôl mewn 26 o gemau.

Mae’n un arall o dîm dan 17 oed Lloegr a gododd Gwpan y Byd o dan reolaeth Steve Cooper, rheolwr Abertawe. 

Mae dau aelod arall o’r garfan honno, Rhian Brewster a Marc Guehi eisoes wedi ymuno â’r Elyrch ers i’r ffenest drosglwyddo agor ddechrau’r mis.