Mae’r ffaith fod tîm pêl-droed Abertawe’n teimlo’n siomedig ar ôl cael gêm gyfartal ddi-sgôr yn y gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd ddydd Sul (Ionawr 12) yn arwydd o agwedd y tîm, yn ôl y capten Matt Grimes.

Pe bai’r Elyrch wedi ennill, bydden nhw wedi creu hanes drwy fod y tîm cyntaf i ennill dwy gêm ddarbi de Cymru yn y gynghrair yn ystod yr un tymor.

Fe lwyddon nhw i guro’r Adar Gleision o 1-0 yn y gêm gyfatebol yn Stadiwm Liberty fis Hydref.

Mae’r Elyrch yn y safleoedd ail gyfle gydag ychydig yn llai na hanner y tymor yn weddill.

“Siom yw’r emosiwn mwyaf oherwydd aethon ni yno i ennill y gêm,” meddai Matt Grimes.

“Rydyn ni’n gwybod faint roedd e’n ei olygu i’r cefnogwyr yn y ddinas.

“Yn y pen draw, rydyn ni wedi cael siom o fethu ag ennill y gêm.

“Wrth gwrs eich bod chi eisiau ennill ond mae’n hanfodol mewn unrhyw gêm ddarbi nad ydych chi’n colli.

“Dydyn nhw ddim wedi ein curo ni’r tymor hwn, ac rydyn ni wedi cipio pedwar pwynt oddi arnyn nhw, sy’n beth positif.”

‘Safonau uchel’

Yn ôl Matt Grimes, mae gan yr Elyrch safonau uchel, ac maen nhw’n disgwyl cyflawni rhywbeth arbennig y tymor hwn.

“Mae ein safonau ni mor uchel fel ein bod ni’n cael siom os nad ydyn ni’n eu cyrraedd nhw, ond dw i’n credu mai dyna’r feddylfryd ac agwedd gywir.”

Mae’r capten hefyd yn canmol y dorf o 2,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

“Roedd y cefnogwyr yn anhygoel,” meddai.

“Dw i’n canmol pob un ohonyn nhw; roedden nhw’n wych ddydd Sul.

“Wnes i ddim peidio â’u clywed nhw drwy gydol y gêm, a dyna’n union sydd ei angen arnon ni wrth fynd yn ein blaenau.

“Maen nhw wedi bod o’r radd flaenaf ac alla i ddim eu canmol nhw ddigon.”