Cafodd tîm pêl-droed Caerdydd grasfa o 6-1 yn QPR heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 1) – wrth i’r Saeson ennill am y tro cyntaf ers pedair gêm.

Sgoriodd Nahki Wells hatric a rhwydodd Bright Osayi-Samuel ddwywaith, wrth i Eberi Eze sgorio’r llall.

Roedd QPR ar y blaen o 3-0 erbyn yr egwyl, a’r gêm eisoes allan o’u gafael.

Ond gwaethygu wnaeth pethau yn yr ail hanner wrth i QPR rwydo dair gwaith eto cyn i Will Vaulks gipio gôl gysur ym munud gynta’r amser a ganiateir am anafiadau yn niwedd y gêm.

Dyma ganlyniad gorau QPR ers iddyn nhw guro Crystal Palace o 6-0 ar ddiwedd tymor 1998-99.

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn y deuddegfed safle yn y Bencampwriaeth.