Ymateb digon cymysg sydd gan Neil Harris yn dilyn gêm ddi-sgôr Caerdydd yn erbyn Preston yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 21).

Mae’r canlyniad yn golygu bod yr Adar Gleision ddeuddegfed, gyda 33 o bwyntiau, yr un nifer â Hull a Millwall sydd y naill ochr iddyn nhw.

“Mewn ffordd, dw i’n falch oherwydd wnaethon ni gael llechen lân ac roedden ni’n edrych yn eitha’ dibynadwy,” meddai.

“Fe gawson ni ambell gyfle wrth wrthymosod yn erbyn y symudiadau wnaeth Preston eu creu, ond dw i’n credu ein bod ni wedi ymdopi â nhw a’u cryfderau’n eitha’ da ar y cyfan.

“Roedd gyda ni ddiffyg creadigrwydd, wnaethon ni ddim creu cyfleoedd – ddim yn agos at y nifer ry’n ni wedi’u gwneud o’r blaen, a dim cyfleodd da fel y gwnaethon ni mewn gemau’n ddiweddar.

“Alla i ddim beirniadu ymdrech y chwaraewyr wrth geisio cyflawni’r hyn roedden ni eisiau iddyn nhw ei wneud.

“Ry’n ni’n dal i gael pethau’n anghywir ond dw i’n mynd i fod yn amyneddgar â nhw.”