Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi canmol ei eilyddion y tymor hwn yn dilyn y fuddugoliaeth o 1-0 yn Luton ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 21).

Daeth Jay Fulton oddi ar y fainc i greu gôl fuddugol Andre Ayew, ei ddegfed, wrth i’r Elyrch ennill oddi cartref am y pumed tro y tymor hwn.

Mae’r Elyrch bellach yn chweched yn y Bencampwriaeth, un pwynt y tu ôl i Fulham, sy’n drydydd.

Yr wythnos ddiwethaf, daeth Barrie McKay oddi ar y fainc i greu gôl wrth i’r Elyrch guro Middlesbrough o 3-1 yn Stadiwm Liberty.

Ac mae Wayne Routledge a Sam Surridge hefyd wedi dod oddi ar y fainc i sgorio goliau buddugol y tymor hwn.

‘Gorffenwyr’

“Ry’n ni’n eu galw nhw’n orffenwyr, fel maen nhw’n ei wneud yn y byd rygbi,” meddai Steve Cooper.

“Rhan o’r fethodoleg yn ein rhaglen hyfforddi yw hyfforddi’r garfan gyfan bob dydd yn barod ar gyfer y gêm nesaf, boed o ran ffitrwydd, tactegau neu ddatblygiad unigol – dyna beth yw’r cyfan.

“Mae’n destun pleser pan fo chwaraewyr yn dod oddi ar y fainc ac yn dangos eu safon.

“Wnaeth Jay hynny ddydd Sadwrn, yn union fel Wayne a Kyle [Naughton], tra bod Barrie wedi creu gôl yn erbyn Middlesbrough.

“Dw i erioed wedi gweld chwaraewyr yn cilio ac yn dioddef o ddiffyg hyder, ac mae hynny’n arwydd da iawn.”