Sutton 3–1 Wrecsam                                                                        

Mae Wrecsam yn aros yn safleoedd disgyn Cymghrair Genedlaethol Lloegr ar ôl colli oddi cartref yn erbyn Sutton United ar Gander Green Lane brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Omar Bugiel hatric i ennill y gêm i’r tîm cartref yn y frwydr tua gwaelodion y tabl.

Sgoriodd Bugiel ei gyntaf wedi dim ond deuddeg munud cyn dyblu mantais ei dîm wrth gwblhau gwrthymosodiad chwim ddeg munud cyn yr egwyl.

Cwblhaodd y blaenwr ei hatric o’r smotyn hanner ffordd trwy’r ail hanner ar ôl cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Kieran Kennedy.

Sgoriodd James Jennings gôl hwyr i’r Dreigiau ond nid oedd honno yn fawr o gysgur i dîm Dean Keates wrth iddynt aros yn y pedwar isaf, yn yr unfed safle ar hugain.

.

Sutton

Tîm: Tzanev, John, Goodliffe, Ajboye (Milsom 87’), Barden, Wyatt, Davis, Eastmond, Reid, Bugiel (Dundas 73’), Wright (Jarvis 79’)

Goliau: Bugiel 12’, 36’, [c.o.s.] 66’

Cardiau Melyn: Bugiel 19’, Davis 45’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Jennings, Pearson, Redmond (Summerfield 58’), Lawlor, Kennedy, Young, Carrington, Rutherford, Grant (Hopper 58’), Patrick (Harris 67’)

Gôl: Jennings 90’

.

Torf: 1,637