Morecambe 2–1 Casnewydd                                                         

Colli fu hanes Casenewydd wrth iddynt deithio i’r Globe Arena i herio Morecambe yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Aeth yr Alltudion ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond yn ôl y daeth Morecambe, a ddechreuodd y prynhawn ar waelod y tabl, yn yr ail hanner.

Roedd llai na chwarter awr wedi mynd pan greodd Taylor Maloney y gôl agoriadol i Joss Labadie ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Newidiodd pethau wedi’r egwyl gyda’r tîm cartref yn unioni trwy’r eilydd, Cole Stockton, hanner ffordd trwy’r ail hanner.

Yna, gyda deg munud yn weddill, cwblhaodd John O’Sullivan symudad da i gipio’r tri phwynt i Morecambe.

Mae’r canlyniad yn eu codi hwy o waelod y tabl tra mae Casnewydd yn llithro i’r trydydd safle ar ddeg.

.

Morecambe

Tîm: Halstead, Tanner, Old, Kenyon, Conlan, Brewitt, O’Sullivan, Wildig (Ellison 45’), Mendes Gomes (Cranston 90+1’), Leitch-Smith, Alessandra (Stockton 45’)

Goliau: Stockton 68’, O’Sullivan 80’

Cerdyn Melyn: O’Sullivan 41’

.

Casnewydd

Tîm: Tomsend, McNamara, O’Brien (Inniss 71’), Demetriou, Haynes, Sheehan, Maloney (Bennett 67’), Nurse (Abrahams 71’), Labadie, Matt, Amond

Gôl: Labadie 14’

Cerdyn Melyn: McNamara 45+4’

.

Torf: 2,161