Luton 0–1 Abertawe                                                                         

Sgoriodd Andre Ayew gôl hwyr wrth i Abertawe guro Luton ar Kenilworth Road yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ddi sgôr am wyth deg munud a mwy cyn i’r gŵr o Ghana sicrhau fod ei dîm yn dychwelyd i dde ddwyrain Cymru gyda’r tri phwynt.

Rheolodd yr ymwelwyr hanner cyntaf di sgôr cyn i George Byers a Bersant Celina ddod yn agos yn yr ail hanner.

Yna, wyth mundu o’r diwedd, cafodd ergyd Jay Fulton ei gwyro i mewn gan Ayew i ennill y gêm i;r Elyrch.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi tîm Steve Cooper i’r safleoedd ail gyfle, yn chweched hanner ffordd union trwy’r tymor.

.

Luton

Tîm: Sluga, Bolton, Pearson, Bradley, Bree, Butterfield (Moncur 61’), Shinnie, Mpanzu, Berry (Tunnicliffe 62’), Collins, Cornick (McManaman 74’)

Cerdyn Melyn: Collins 45+1’

.

Abertawe

Tîm: Woodman, Roberts, wilmot, van der Hoorn, Bidwell, Byers, Grimes, Carroll (Fulton 75’), Ayew, Baston (Routledge 75’), Celina (Naughton 87’)

Gôl: Ayew 82’

Cardiau Melyn: Bidwell 37’, Byers79’

.

Torf: 10,062