Leeds 3–3 Caerdydd                                                                          

Tarodd Caerdydd nôl i gipio pwynt ar ôl bod dair gôl ar ei hôl hi yn erbyn Leeds ar Elland Road brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen yn wyth munud cyntaf y gêm Bencampwriaeth cyn ychwanegu trydedd yn gynnar yn yr ail gyfnod. Ond yn ôl y daeth yr Adar Gleision i sicrhau gêm gyfartal, a hynny er gwaethaf gorffen y gêm gyda deg dyn.

Chwe munud yn unig a oedd ar y cloc pan wrthymosododd Leeds gyda Stuart Dallas, Mateusz Klich a Pablo Hernandez i greu’r gôl agoriadol i Helder Costa.

Dyblodd y tîm cartref eu mantais ddau funud yn ddiweddarach, Patrick Bamford yn rheoli croesiad Dallas yn grefftus cyn claddu’r bêl yng nghefyn y rhwyd.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd Leeds ymhellach ar y blaen saith munud wedi’r egwyl, Bamford yn curo Neil Etheridge o’r smotyn wedi i’r gôl-geidwad ei lorio yn y cwrt cosbi.

Dechreuodd adferiad Caerdydd ar yr awr pan gododd Lee Tomlin y bêl dros yr amddiffyn ac i’r gôl o ongl dynn.

Peniodd Sean Morrison yr ail wyth munud o ddiwedd y naw deg wedi gwaith da Joe Bennett ar yr asgell.

Cyfraniad nesaf Morrison a oedd cael ei anfon oddi ar y cae am dacl wael ar Eddie Nketiah bedwar munud yn unig yn ddiweddarach.

Ond wnaeth hynny ddim atal deg dyn Caerdydd rhag cipio pwynt gyda gôl Robert Glatzel ddau funud o’r diwedd, yr Almaenwr yn penio heibio i Kiko Casilla wedi rhagor o waith creu Tomlin.

Er cystal y pwynt hwn, mae tîm Neil Harris yn llithro i’r deuddegfed safle yn y tabl.

.

Leeds

Tîm: Casilla, Ayling, White, Berardi (Struijk, Dalla, Phillips, Helder Costa, Hernandez, Klich, Harrison (Alioski 81’), Bamfors (Nketiah 77’)

Goliau: Helder Costa 6’, Bamford 8’, [c.o.s.] 52’

Cerdyn Melyn: Hernandez 45+1’

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Flint (Nelson 41’), Morrison, Bennett, Mendez-Laing, Vailks (Whyte 61’), Pack, Ralls, Ward (Glatzel 73’), Tomlin

Goliau: Tomlin 60’, Morrison 82’, Glatzel 88’

Cerdyn Melyn: Tomlin 32’

Cerdyn Coch: Morrison 86’

.

Torf: 34,552