Bydd tîm pêl-droed Cymru’n herio Awstria mewn gêm gyfeillgar ar Fawrth 27.

Hon fydd eu gêm baratoadol gyntaf cyn cystadleuaeth Ewro 2020 yn yr haf.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yng Nghymru, ond does dim cadarnhad o’r lleoliad eto.

Dydy Awstria ddim wedi chwarae yng Nghymru ers iddyn nhw golli o 1-0 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn 2017.

Bydd Cymru’n herio’r Eidal, Twrci a’r Swistir yng Ngrŵp A yn Ewro 2020, tra bydd Awstria’n wynebu’r Iseldiroedd, yr Wcráin ac un o enillwyr y gemau ail gyfle yng Ngrŵp C.