Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud ei fod e wedi cyffroi ar drothwy’r gêm fawr oddi cartref yn West Brom heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 8).

Mae’r Elyrch yn ddi-guro mewn gemau oddi cartref y tymor hwn – yr unig dîm yn y gynghrair sydd â’r record honno – ond byddan nhw’n wynebu tipyn o brawf wrth herio’r tîm sydd ar frig y Bencampwriaeth ac sy’n ddi-guro ar eu tomen eu hunain hyd yn hyn.

Ond dydy’r Elyrch ddim wedi ennill yr un o’u pum gêm ddiwethaf yn yr Hawthorns.

Mae’r Baggies, o dan reolaeth Slaven Bilic, wedi ennill 23 allan o 27 o bwyntiau yn eu gemau mwyaf diweddar.

“Dw i’n edrych ymlaen ac yn hapus iawn gyda’r ymarferion yr wythnos hon,” meddai Steve Cooper.

“Mae’r paratoadau wedi bod yn dda, ac rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio’n fawr ar drothwy gêm arall ar y teledu.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at unrhyw gêm rydyn ni’n chwarae ynddi.”

Positifrwydd

Mae’n dweud bod gan ei dîm agwedd bositif at gemau y tymor hwn, er bod eu perfformiadau oddi cartref yn well o lawer na’r rhai ar eu tomen eu hunain.

“Mae’r gwydryn yn hanner llawn, ac rydyn ni’n credu y gallwn ni gyflawni’r hyn wnaethon ni geisio ei wneud,” meddai.

“Fydd hyn ddim yn wahanol, p’un a ydyn ni’n chwarae gartref neu oddi cartref.

“Ond mae hon yn gêm dda, yn gêm fawr os liciwch chi.

“Rhaid i ni gyffroi am y pethau hyn.

“Os ydych chi’n teimlo’r gwrthwyneb, dw i ddim yn meddwl y byddwch chi’n mynd yno â’r agwedd iawn.”

Tîm Abertawe

Mae’n bosib y gallai’r asgellwr Aldo Kalulu ymddangos yng nghrys Abertawe am y tro cyntaf ers tri mis, ar ôl gwella o anaf i’w ffêr.

Fe fu’r Ffrancwr yn chwarae i’r tîm dan 23 oed wrth geisio gwella’i ffitrwydd yn ddiweddar.

Mae Nathan Dyer hefyd wedi gwella ar ôl ergyd, ond mae gan Wayne Routledge anaf i’w goes.