Mae Kyle Howkins, amddiffynnwr Clwb Pêl-droed Casnewydd, mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ôl cael anaf i’w ben yn ystod buddugoliaeth ei dîm dros Maldon & Tiptree yng Nghwpan FA Lloegr neithiwr (nos Wener, Tachwedd 29).

Daeth unig gôl y gêm gan Padraig Amond yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau, yn dilyn cyfnod hir o driniaeth i Kyle Howkins, oedd wedi mynd ben-ben â Charlee Hughes.

Cadarnhaodd Mike Flynn, rheolwr Casnewydd, ar ôl y gêm y byddai’n treulio’r noson yn yr ysbyty.