Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud bod nifer o “benderfyniadau diddorol” gan y dyfarnwr wedi difetha’r gêm Bencampwriaeth yn Huddersfield neithiwr.

1-1 oedd hi yn y pen draw.

Sgoriodd Jay Fulton ar ôl 17 munud i roi’r Elyrch ar y blaen, cyn i Karlan Grant unioni’r sgôr ar ôl 40 munud.

Ond roedd tîm Huddersfield i lawr i ddeg dyn ar ôl i Trevoh Chalobah weld cerdyn coch am daro George Byers â’i ben wrth ymateb i dacl flêr.

Ac eithrio’r penderfyniad hwnnw, mae Steve Cooper yn cwestiynu nifer o benderfyniadau eraill y dyfarnwr Jarred Gillett.

“Ro’n i’n meddwl y gallai hi fod wedi bod yn gêm bêl-droed dda iawn heno, ond dw i ddim yn meddwl iddi danio oherwydd nifer o benderfyniadau diddorol i’r ddau dîm,” meddai.

“Ac eithrio’r cerdyn coch cwbl amlwg a gafodd ei roi, dw i’n credu y bydda i a Danny [Cowley, rheolwr Huddersfield] yn teimlo’n siomedig ynghylch rhai penderfyniadau.

“Dw i’n credu y gall y ddau ohonon ni deimlo’n siomedig. Ro’n i’n meddwl bod y penderfyniadau wedi effeithio ar lif y gêm ac roedd hi’n gêm bytiog yn y pen draw.

“Daeth hi’n fater o frwydro ac ennill y bêl gyntaf a’r ail bêl ac aeth y gêm rhagddi wedyn.”

Anaf i Mike van der Hoorn – ond canmol Ben Cabango

Yn ôl Steve Cooper, mae’n rhy gynnar i asesu anaf Mike van der Hoorn, yr amddiffynnwr canol.

Bu’n rhaid i’r Iseldirwr adael y cae ar yr egwyl, ac fe ddaeth y Cymro Cymraeg Ben Cabango i’r cae yn ei le ar gyfer yr ail hanner.

Cafodd hwnnw ei ganmol am berfformiad cadarn yn ei gêm gynghrair gyntaf i’r clwb.

“Roedd Ben Cabango yn beth positif iawn heno,” meddai Steve Cooper.

“Chwaraeodd e’n dda iawn gyda’r bêl a hebddi, ac fe gafodd e gymeradwyaeth dda gan y bois yn yr ystafell newid.”