Mae Zinedine Zidane, rheolwr tîm pêl-droed Real Madrid, yn dweud bod y cefnogwyr yn gwneud “gormod o sŵn” yn erbyn Gareth Bale.

Cafodd y Cymro groeso anghynnes wrth iddo fe ddod oddi ar y fainc yn ystod buddugoliaeth ei dîm o 3-1 dros Real Sociedad yn y Bernabeu.

Roedd y cefnogwyr yn chwibanu i ddangos eu dicter yn dilyn ffrae’r faner yr wythnos ddiwethaf, pan oedd y Cymro’n dal baner yn dweud ‘Cymru. Golff. Real Madrid: yn y drefn honno’.

Mae’r cefnogwyr a’r wasg wedi bod yn beirniadu’r weithred wrth i’r Cymro ddathlu buddugoliaeth Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd sy’n eu gweld nhw’n mynd i rowndiau terfynol Ewro 2020 y flwyddyn nesaf.

Ond mae Zinedine Zidane yn galw am bersbectif.

“Gobeithio na fydd hyn yn parhau am weddill y tymor,” meddai’r Ffrancwr, yn ôl y papur newydd Marca.

“Rydyn ni eisiau i’r cefnogwyr fod gyda ni o’r dechrau i’r diwedd, ond allwn ni ddim rheoli hynny.

“Mae gan y cyhoedd yr hawl i wneud beth fynnon nhw, ond rwy’n gofyn iddyn nhw gymeradwyo pawb.

“Rwy’n hapus gyda’i gêm a’r fuddugoliaeth ac fe ddaeth Bale i mewn i’r gêm yn dda.

“Yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud yw parhau i weithio ar y cae.”

‘Llongyfarch’

Dywed Zinedine Zidane nad yw e wedi trafod y sefyllfa â Gareth Bale, ond ei fod e wedi ei longyfarch ar ei berfformiad.

“Alla i ddim dweud wrthoch chi a yw’n annheg neu beidio,” meddai wedyn.

“Gall pawb ddweud beth fynnon nhw.

“Mae angen ein cefnogwyr arnon ni, ond allwn ni ddim rheoli beth sy’n digwydd wedyn.

“Mae gormod o sŵn yn erbyn Bale, mae e eisiau bod gyda ni a gwneud yn dda.

“Dyna pam nad ydyn ni eisiau siarad llawer.

“Mae e’n rhan o’r criw ac eisiau chwarae fel pawb arall.”